- Jobs Home
- Search Jobs
- Teacher (Diagnostic Radiographic Imaging)
Results
Job Details
Explore Location
Prifysgol Caerdydd
UK, United Kingdom
Teacher (Diagnostic Radiographic Imaging)
The insights provided are generated by AI and may contain inaccuracies. Please independently verify any critical information before relying on it.
Teacher (Diagnostic Radiographic Imaging)
The insights provided are generated by AI and may contain inaccuracies. Please independently verify any critical information before relying on it.
Description
AthroRadiograffeg a Delweddu Diagnostig
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Gan fod deiliad presennol y swydd ar gyfnod mamolaeth, mae Prifysgol Caerdydd, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn gwahodd ceisiadau am Athro mewn Radiograffeg a Delweddu Diagnostig.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i addysgu a goruchwylio myfyrwyr radiograffeg ddiagnostig israddedig. Bydd deiliad y swydd yn ysbrydoli myfyrwyr, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol yn eu maes astudio.
Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i wneud cyfraniad gwirioneddol i addysgu a hyfforddi myfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag addysg a hyfforddiant myfyrwyr israddedig Radiograffeg a Delweddu Diagnostig ac yn eu goruchwylio yn y lleoliadau academaidd a chlinigol.
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn darparu pob math o addysg israddedig ac ôl-raddedig sy'n gwella canlyniadau iechyd a gofal iechyd yn uniongyrchol i gleifion a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ac ymchwil ym meysydd Bydwreigiaeth; Nyrsio (Oedolion, Plant a Iechyd Meddwl); Therapi Galwedigaethol; Ffisiotherapi; Ffotograffiaeth Glinigol; Ymarfer cysylltiedig â Llawdriniaethau; a, Radiograffeg (diagnostig a therapi).
Mae ein diwylliant yn ddeinamig, yn gydweithredol ac yn flaengar, ac rydym yn cael ein cydnabod am ragoriaeth ein dysgu, ein haddysgu a’n hymchwil. Rydym yn annog myfyrio a meddwl yn feirniadol ac yn rhoi gwerth ar ryddid meddwl a chwilfrydedd deallusol ymhlith ein staff a’n myfyrwyr.
Rydym yn cymeryd balchder yn darparu amgylchedd ysgogol a chefnogol, ac yn annog ein holl staff i fynd ar drywydd datblygiad personol a phroffesiynol. Mae gweithio i ni’n gyfle i fod yn rhan o un o brifysgolion blaenllaw'r DU ar gyfer addysg gofal iechyd, gan gynnwys rhaglenni ac ymchwil arloesol a dylanwadol.
Dylai ymgeiswyr fod ag angerdd am addysgu arloesol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr a dylent feddu ar gofrestriad llawn y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
I wneud ymholiadau cyfrinachol ac anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Charlotte Hodges, Pennaeth y Rhaglen, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, HodgesC2@caerdydd.ac.uk
Mae'r swydd hon yn llawn amser, 35 awr yr wythnos, ac mae dros gyfnod mamolaeth. Mae'r swydd ar gael o 10 Tachwedd 2025 tan 8 Tachwedd 2026 ac mae wedi'i lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y gallwch weithio o leoliad arall, e.e. eich cartref, rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Croesewir cyfleoedd secondio – sylwer, os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd yn rhaid ichi gael caniatâd eich Rheolwr Llinell cyn ymgeisio.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Diben y Swydd
Yn aelod o’r tîm addysgu Radiograffeg a Delweddu Diagnostig yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddylunio, cydlynu, goruchwylio a chyflwyno unedau addysgu (a all gynnwys modiwlau llawn) ac asesu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Bydd hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau academaidd ac addysgu gweinyddol gofynnol sy’n ymwneud â chyflwyno'r addysgu a'r asesu hwnnw, a'r rhaglenni yn eu cyfanrwydd.
Ymgymryd â rôl weinyddol/rheoli academaidd sylweddol o fewn adran berthnasol yr ysgol/uned neu weithgareddau rheoli priodol eraill.
Prif Ddyletswyddau
Dylunio a chynllunio unedau addysgu o fewn rhaglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig, megis darlithoedd/seminarau/gweithdai unigol, adrannau mwy o fodiwlau, neu fodiwlau cyfan. Mae hyn yn cynnwys nodi amcanion dysgu a dewis cwricwla priodol; dewis deunydd darllen, adnoddau a dulliau addysgu; pennu, cynllunio a chynhyrchu deunydd astudio; cynllunio sut i gyflwyno’r cwrs; a chynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, megis cynnydd arafach/cyflymach na’r disgwyl.
Cydlynu gweithgareddau addysgu timau ar fodiwlau, gan gynnwys cysylltu ag academyddion eraill a/neu fyfyrwyr ôl-raddedig, i sicrhau bod y cwrs yn ategu at gyrsiau eraill y myfyrwyr; datblygu cyrsiau a newid y cwricwlwm drwy gydweithio â chydweithwyr.
Cyflwyno unedau addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd/seminarau/gweithdai unigol, adrannau mwy o fodiwlau, neu fodiwlau cyfan. Mae hyn yn cynnwys paratoi deunydd addysgu, cyflwyno gwybodaeth bynciol ac annog deialog feirniadol er mwyn datblygu’r broses o feddwl yn rhesymegol; arsylwi ac ymateb i ymyriadau gan fyfyrwyr; ymateb i gwestiynau y tu allan i’r dosbarth ac ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl wrth gyflwyno'r cwrs.
Cynnal asesiadau ar gyfer unedau addysgu, gan gynnwys cynllunio meini prawf asesu a marcio; goruchwylio asesiadau lle bo angen (e.e., mewn profion dosbarth neu gyflwyniadau), marcio asesiadau, nodi marciau ar systemau'r brifysgol a darparu adborth ysgrifenedig/llafar.
Goruchwylio a marcio prosiectau israddedig ac ôl-raddedig yn ôl yr angen.
Ymgymryd â rôl weinyddol/rheoli academaidd sylweddol o fewn adran berthnasol yr ysgol/uned neu weithgareddau rheoli priodol eraill.
Gwerthuso addysgu, gan gynnwys hwyluso adborth myfyrwyr; myfyrio ar eich dull a chyflwyniad addysgu eich hun a gweithredu syniadau ar gyfer gwella eich cyflwyniad addysgu a’ch perfformiad eich hun. Ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus y cytunir arnynt â'r rheolwr llinell a thrwy weithgareddau ategol megis y gwasanaeth prawf neu ADP blynyddol (Adolygu Datblygiad a Pherfformiad).
Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau myfyrwyr academaidd a bugeiliol, gan arwain a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cyngor a chymorth perthnasol. Gall hyn fod yn rhan o rôl Tiwtor Personol ffurfiol, neu’n aelod o dîm cyflwyno modiwl.
Cyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ôl y gofyn, gan ymdrin yn brydlon â cheisiadau adweithiol, megis y rhai sy'n ymwneud ag addysgu, goruchwylio myfyrwyr a thasgau gweinyddol neu weithredoedd gan bwyllgorau a gweithgorau.
Ymgymryd â rôl weinyddol/rheoli academaidd sylweddol o fewn adran berthnasol yr ysgol/uned neu weithgareddau rheoli priodol eraill yn ôl yr angen.
Dyletswyddau Cyffredinol
Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol.
Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i'ch cyflwyniad gynnwys dogfen ategol yn amlinellu eich maes arbenigedd mewn Radiograffeg a Delweddu Diagnostig. Dylech hefyd gynnwys eich rhif cofrestru presennol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Dylai'r ddogfen hon hefyd egluro sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ym manyleb y swydd (ac unrhyw feini prawf dymunol).
NODYN PWYSIG: Yn eich datganiad ategol, mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol (a dymunol, lle bo’n berthnasol) isod. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio pob maen prawf yn is-bennawd ac yn rhoi tystiolaeth ysgrifenedig o'ch sgiliau perthnasol o dan bob un. Cyn lanlwytho'r datganiad ategol hwn, gofalwch eich bod yn cynnwys ****BR yn enw’r ffeil.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau
- Gradd gyntaf dda, ynghyd â PhD NEU brofiad cymwys/proffesiynol cyfatebol mewn maes perthnasol.
- Wedi cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Sgiliau addysgu effeithiol diamheuol a phrofiad addysgu perthnasol, yn enwedig cynllunio darlith/gwersi dosbarth, rheoli grŵp a dulliau asesu priodol.
- Gwybodaeth arbenigol am ddatblygiadau cyfredol ym maes Radiograffeg Diagnostig
- Y gallu i gymryd cyfrifoldeb llawn am ddylunio, cyflwyno, cynllunio a chydlynu unedau addysgu ar gwrs, modiwl neu raglen astudio, ac am asesiadau cysylltiedig.
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill gan ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac ystod o gyfryngau
- Sgiliau trefnu ardderchog diamheuol a'r gallu i reoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol drwy fabwysiadu agwedd hyblyg at y gwaith.
- Y gallu i gynnig cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a’u hamgylchiadau a bod yn diwtor personol
Arall
- Y gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio yn rhan o dîm yn y gwaith
Meini Prawf Dymunol
- Cymhwyster proffesiynol/addysgu a dysgu perthnasol e.e., statws Cymrodoriaeth AdvanceHE neu gymhwyster addysgu ôl-raddedig.
- Tystiolaeth o gydweithio â rhanddeiliaid perthnasol
- Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
- Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch
- Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb am waith gweinyddol sy’n gysylltiedig â gwaith academaidd
Job ID: f14adde5-5485242724
Jobs You May Like
Community Intel Unavailable
Details for UK, United Kingdom are unavailable at this time.
Loading...